Gwybodaeth i gwsmeriaid Cymraeg
We have included this page for the benefit of our Welsh speaking visitors to explain what britishgas.co.uk can do for you and how to contact us. Welcome to britishgas.co.uk.
Rydym wedi cynnwys y dudalen hon er lles ein hymwelwyr sy'n siarad Cymraeg ac i egluro beth y gall britishgas.co.uk wneud i chi a sut i gysylltu â ni. Croeso i britishgas.co.uk.
Fel cwsmeriaid presennol British Gas ac i rai eraill posibl yn y dyfodol sy’n siarad Cymraeg, efallai y dymunwch wybod rhagor am ein hymrwymiad i'r iaith Gymraeg.
Cefndir
Ym 1996, penderfynodd British Gas rhoi safon uchel gyfartal i'w cwsmeriaid Saesneg a Chymraeg. O ganlyniad, rhoddodd Bwrdd Yr Iaith ei fendith i’n polisi iaith Gymraeg.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi?
Mae gan British Gas dîm Cymraeg ymroddedig wedi'i leoli yng Nghaerdydd. Mae aelodau'r tîm yn siaradwyr Cymraeg sy'n gyfrifol am ymdrin ag unrhyw ymholiad yn Gymraeg.
Ein gwasanaethau
Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig yw:
- Gwasanaeth ymholiadau ffôn (ar gael rhwng 9yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener)
- Gallu delio ac ymholiadau ynglŷn â’ch nwy a thrydan a hefyd eich Gwasanaethau Cartref
- Gwasanaeth ymholiadau ysgrifenedig
- Cyngor cyffredinol ac arweiniad ar faterion ynni a gwasanaethau
- Trefnu biliau a gohebiaeth yn Gymraeg
- Agor cyfrifon ynni a gwasanaethau i'n cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg
- Ffôn testun i'n cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg ac sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw
- Trefnu biliau yn Gymraeg mewn print bras, Braille neu "biliau sy'n siarad" lle bo angen
Sut i gysylltu â ni:
- Ymholiadau ffôn: 0333 202 9630
- Ymholiadau e-bost: welshlanguage@britishgas.co.uk
Yr Adran Gymraeg
British Gas
4 Sgwâr Callaghan
Caerdydd
CF10 5BT
Os nad yw British Gas yn cyflenwi eich eiddo, ffoniwch ni.